Hygyrchedd

Datganiad hygyrchedd

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i:

Defnyddio'r wefan hon

Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Gyngor Sir Ynys Môn. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau porwr neu ddyfai
  •  chwyddo hyd at 400% heb i'r testun arllwys oddi ar y sgrin llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Gwyddom nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

Maps are exempt from accessibility requirements (see the Governments Accessibility requirements for public sector websites and apps for further information on exemptions.)

Darperir OpusMap gan Blue Fox Technology; Mae Blue Fox Technology yn cynnal unrhyw brofion hygyrchedd ar OpusMap.

Mae OpusMap yn cydymffurfio ag arfer gorau OGC/W3C ar gyfer data gofodol ar y we ac mae gwefan OpusMap yn pasio WCAG 2.2 AA neu EN 301 549.

Adborth a manylion cyswllt

Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â digidol@ynysmon.llyw.cymru 

Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille: 

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi ymhen 15 diwrnod.  

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS). 

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd ar y wefan

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018. 

Statws cydymffurfiaeth 

Mae'r wefan wedi'i phrofi yn erbyn safon 2.2 AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG).

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n llawn â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2.

Cynnwys anhygyrch

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Ffeiliau PDF a dogfennau eraill

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.

Bydd unrhyw PDFs neu ddogfennau Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.

Baich anghymesur

Nid ydym yn hawlio baich anghymesur ar unrhyw ran o'r wefan hon.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 27 Medi 2023. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 19 Rhagfyr 2024.

Profwyd gwefan OpusConsult ddiwethaf ar 13 Medi 2024. Cynhaliwyd y prawf gan JDi Solutions Ltd. Cafodd y tudalennau yr edrychwyd arnynt fwyaf eu profi gan ddefnyddio offer profi awtomataidd gan ein tîm gwefan. Cynhaliwyd archwiliad pellach o'r wefan i safon WCAG 2.2 AA.

Dewiswyd tudalennau allweddol i'w profi. Fe wnaethon ni brofi:

Ar ein system brofi gyda thema Cyngor Sir Ynys Môn yn ei lle:

  • Dogfennau
  • Tudalennau fy nghyfrif (Manylion, Cyfrinair, Pynciau, Drafftiau, Cyflwynwyd, Proseswyd)
  • Ffurflenni
  • Cefnogaeth / dewiniaid mewnbwn cynrychiolaeth
  • Gweld cefnogaeth/gwrthrych/ffurflen wybodaeth gyhoeddedig